logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mola Ef

Pennill 1
Mola Ef ar godiad haul
ac ar eiliad gynta’r dydd
Mola Ef â chor y bore bach
Mola Ef wrth weld o bell
‘ddarpariaeth ddaw o’i law
Mola â phob curiad dan dy fron

Pennill 2
Mola Ef pan ar dy daith
drwy’r ddaear wamal hon
Mola Ef pan ddaw y ffrwyth neu bridd
Mola’n y cynhaeaf
neu pan fydd ‘sgubor wag
Mola â phob curiad dan dy fron

Corws
Mola’r Iôr, f’enaid i
F’enaid oll, mola’r Iôr
Drwy y dydd a thrwy y nos
F’enaid i, mola’r Iôr

Pennill 3
Mola wrth it roi dy ben
i lawr i gysgu’r nos
Mola, er i’r cysgod ddod â braw
(Mae’r) gwyll fel golau Iddo Ef
Fe’th geidw yn ei law
Mola â phob curiad dan dy fron

Corws (X2)
Mola’r Iôr, f’enaid i
F’enaid oll, mola’r Iôr
Drwy y dydd, a thrwy y nos
F’enaid i, mola’r Iôr

Pennill 4
Mola, pan fo’r gwaith ar ben
a blinder aeth yn drech
Mola Ef pan gilia golau’r dydd
Mola Ef, mae yn dy ddal
a’th nabod drwyddot draw
Mola â phob curiad dan dy fron

Corws
Mola’r Iôr, f’enaid i
F’enaid oll, mola’r Iôr
Drwy y dydd, a thrwy y nos
F’enaid i, mola’r Iôr (X3)

Mola Ef / Praise him (Lauren Chandler | The Village Church)
© 2020 The Village Church and Songs from Wellhouse. Cedwir pob hawl. Defnyddir trwy ganiatâd.
cyf. Arwel E Jones

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • February 10, 2021