Molwn enw’r Arglwydd,
Brenin mawr y nef:
Crëwr a Chynhaliwr
bywyd ydyw ef
llechwn yn ei gysgod
pa beth bynnag ddaw,
nerthoedd nef a daear
geidw yn ei law.
Molwn enw’r Arglwydd,
sanctaidd yw efe,
llewyrch ei wynepryd
yw goleuni’r ne’;
enfyn ef ei Ysbryd
i sancteiddio dyn,
nes bod daear gyfan
fel y nef ei hun.
Molwn enw’r Arglwydd,
digyfnewid yw;
cryfach na’r tymhestloedd
yw cadernid Duw:
cyfnewidied daear,
cryned seiliau dyn,
pan fo’r byd yn siglo
pery Duw yr un.
Molwn enw’r Arglwydd,
rhyfedd yw ei ras;
lleinw ei drugaredd
gyrrau’r ddaear las:
pan gyrhaeddwn adref
draw to hwnt i’r llen,
molwn enw’r Arglwydd
yn y nefoedd wen.
J. J. WILLIAMS, 1869-1954
(Caneuon Ffydd 126)
PowerPoint