N’ad im fodloni ar ryw rith
o grefydd, heb ei grym,
ond gwir adnabod Iesu Grist
yn fywyd annwyl im.
Dy gariad cryf rho’n f’ysbryd gwan
i ganlyn ar dy ôl;
na chaffwyf drigfa mewn unman
ond yn dy gynnes gôl.
Goleuni’r nef fo’n gymorth im,
i’m tywys yn y blaen;
rhag imi droi oddi ar y ffordd
bydd imi’n golofn dân.
DAFYDD MORRIS, 1744-91
(Caneuon Ffydd 291)
PowerPoint