Nef a daear, tir a môr
sydd yn datgan mawl ein Iôr:
fynni dithau, f’enaid, fod
yn y canol heb roi clod?
Gwena’r haul o’r cwmwl du
er mwyn dangos Duw o’n tu;
dywed sêr a lleuad dlos
am ei fawredd yn y nos.
Gwellt y maes a dail y coed
sy’n ei ganmol ef erioed;
popeth hardd o dan y nef,
dyna waith ei fysedd ef.
Cwyd aderyn bach o’i nyth
am fod Duw yn dirion byth;
gwrendy’r corwynt ar ei lef,
cerdda’r mellt ei lwybrau ef.
Dywed afon yn ei hiaith
mai efe sy’n trefnu’r daith;
ac ni chyfyd ton o’r môr
heb roi mawl i enw’r Iôr.
Rhyfedd wyt, O Dduw,
bob awr yn egluro d’allu mawr:
wrth dy draed, O dysg i mi
beth wyf fi, a phwy wyt ti.
JOACHIM NEANDER, 1650-80 cyf. ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 116)
PowerPoint