Nid ar fore hafddydd tawel
gwelwyd Iesu’n rhodio’r don,
ond ar noswaith o gyfyngder
pan oedd pryder dan bob bron;
ni fu nos na thywydd garw
allsai gadw f’Arglwydd draw:
ni fu neb erioed mor isel
na châi afael yn ei law.
Ganol nos pan oedd mewn gweddi
cofiai am eu gofid hwy;
mae yn cofio, cofio eto
yn y nef am lawer mwy;
er bod canu’r gwynfyd iddo
a’r holl nefoedd yn y côr,
mae yn gweled ei rai annwyl
wrth eu rhwyfau ar y môr.
Nid yw’r Iesu’n well yn unman
nag yng ngwaetha’r storom gref;
mae y gwynt a’r nos a’r tonnau
oll yn eiddo iddo ef;
mae yn felys, melys meddwl,
wedi colli’r cyfan bron,
gwelir ninnau yn ddihangol
gyda’r Gŵr sy’n rhodio’r don.
ELFED 1860-1953
(Caneuon Ffydd 343)
PowerPoint