Pennill 1
Rhodd o’r fath ras yw Iesu fy Ngwaredwr
Cans nid oes mwy y gall y nef ei roi
Ef yw ‘nghyfiawnder, rhyddid a’m llawenydd
Fy nghariad triw, a’m dwfn di-derfyn hedd
Cydiaf yn hyn, mae ‘ngobaith i yn Iesu
Mae ‘mywyd oll ynghlwm â’i fywyd Ef
Am ryfeddod o’r nef, dyma ‘nghân, codaf lef
Nid myfi, ond Crist ynof fi
Pennill 2
Mae’r nos yn ddu ond ni fydd yn fy ngadael
Mae Ef gerllaw, ‘Ngwaredwr i a saif
Rwy’n brwydro ‘mlaen mewn gwendid a llawenydd
Cans yn fy angen, daw ei nerth yn glir
Cydiaf yn hyn, mae’r Bugail yn f’amddiffyn
Drwy’r dyffryn dwfn, Efe a’m harwain i
Trechodd d’wyllwch a braw, buddugoliaeth a ddaw
Nid myfi, ond Crist ynof fi
Pennill 3
Nid ofnaf ddim, mae Iesu wedi maddau
Talwyd y pris, diogel fyddaf i
Fe waedodd Crist, dioddefodd i fy mhrynu
Cododd yn fyw i drechu grym y bedd
Cydiaf yn hyn, fy mhechod i a drechwyd
Iesu nawr am byth a fydd fy mhle
Nawr fy nghytgan a fydd – o’m cadwynau rwy’n rhydd
Nid myfi, ond Crist ynof fi
Pennill 4
 phob anadliad, rwyf am ddilyn Iesu
Mae’n addo caf fynd adre gydag Ef
Ddydd ar ôl dydd, bydd yn fy adnewyddu
Hyd nes i’m ddod o flaen ei orsedd Ef
Cydiaf yn hyn, mae ‘ngobaith i yn Iesu
Ac Iddo Ef, y boed y moliant byth
Pan mae’n ras i ar ben, canaf eto i’r nen
Nid myfi, ond Crist ynof fi
Diweddglo
Pan mae’n ras i ar ben, canaf eto i’r nen
Nid myfi, ond Crist ynof fi
Nid myfi, ond Crist ynof fi
Nid myfi / Yet not I (Jonny Robinson | Michael Farren | Rich Thompson)
© 2018 CityAlight Music (Gwein. gan Integrity Music) Farren Love And War Publishing (Gwein. gan Integrity Music) Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music)
Cyf. Arwel E Jones, Lowri Jones ac Arfon Jones
CCLI # 7169883
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint