O Arglwydd Dduw ein tadau,
ein craig a’n tŵr wyt ti:
O gogonedda eto
dy enw ynom ni;
ni cheisiwn fwy anrhydedd
na rhodio’n llwybrau’r groes
gan fyw i ddangos Iesu
a gwasanaethu’n hoes.
Nid oes i ni offeiriad
ond Iesu Grist ei hun
nac ordeiniadau eraill
ond geiriau Mab y Dyn:
i ryddid pur y’n galwyd;
O cadw ni’n dy waith
nes elo cyfraith rhyddid
dros ŵyneb daear faith.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 613)
PowerPoint