O Arglwydd y gwanwyn, anadla drwy’r tir
a deffro ein daear o gwsg sydd mor hir,
boed gwres anorchfygol dy gariad dy hun
yn ffrwydro gorfoledd yng nghalon pob un.
Dy nerth ar ein daear, O Arglwydd y wyrth,
ddeisyfwn i dreiglo y meini o’r pyrth,
dy nerth i gyfannu rhwygiadau yr oes,
y nerth a goncwerodd waradwydd y groes.
Llewyrcha, O Arglwydd, oleuni dy ffydd
i symud ffôl rwystrau ein bywyd bob dydd,
i aileni’r cariad a buraist drwy boen
a’i wrid yn disgleirio tangnefedd yr Oen.
O ffynnon dy glwyfau daioni a dardd
mor fywiol ei ffrydiau â’r chwŷs yn yr ardd;
dros grastir ein bywyd, O Arglwydd yr had,
llifeiried dy wanwyn yn ddwyfol fywhad.
VERNON JONES Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 110)
PowerPoint