O cadw ni, ein Duw,
mewn dyddiau du,
rhag colli rhamant byw
dan ofnau lu.
Yn nydd y crwydro mawr
ar lwybrau’r ffydd,
O clyw ein gweddi nawr
am newydd ddydd.
Rho inni weld y groes
a phridwerth Crist
yn drech nag anllad oes
a’i gwacter trist.
Wrth gofio’i goncwest ef
y trydydd dydd,
tydi, O Frenin nef,
cryfha ein ffydd.
Rhyddha’n tafodau mud
â’r Ysbryd Glân
nes boddi cellwair byd
mewn môr o gân.
Rho hyder yn y gwir
i deulu’r ffydd
a gweledigaeth glir
o’r nefol ddydd.
IEUAN S. JONES © Mrs Glenda Mair Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 606)
PowerPoint