O Dduw, a roddaist gynt
dy nod ar bant a bryn,
a gosod craig ar graig
dan glo’n y llethrau hyn,
bendithia waith pob saer a fu
yn dwyn ei faen i fur dy dŷ.
Tydi sy’n galw’r pren
o’r fesen yn ei bryd,
a gwasgu haul a glaw
canrifoedd ynddo ‘nghyd:
O cofia waith y gŵr â’r lli’
a dorrodd bren i’th allor di.
Ti’r hwn sy’n torri’r ffordd
a’i dangos ymhob oes,
bendithia sêl dy blant
a’i troediodd dan eu croes;
rho weled gwerth eu haberth hwy
fel na bo glas eu llwybrau mwy.
TOMI EVANS, 1905-82 © Marian Roberts. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 820)
PowerPoint