O Dduw, rho im dy Ysbryd,
dy Ysbryd ddaw â gwres,
dy Ysbryd ddaw â’m henaid
i’r nefoedd wen yn nes;
dy Ysbryd sy’n goleuo,
dy Ysbryd sy’n bywhau,
dy Ysbryd sydd yn puro,
sancteiddio a dyfrhau.
Dy Ysbryd sydd yn cynnal
yr eiddil, gwan ei ras,
yn nerthu’r enaid egwan
sy’n ofni colli’r maes;
dy Ysbryd sy’n gwasgaru
pob cwmwl tywyll, du;
gwna fi drwy nerth dy Ysbryd
yn gadarn ac yn hy.
Dy Ysbryd sy’n datguddio
yr heirdd drysorau drud
na chenfydd llygad natur
cuddiedig iawn i’r byd;
dy Ysbryd sydd yn ennyn
cynhesol, nefol dân;
dy Ysbryd pur yn unig
sydd yn melysu ‘nghân.
DAFYDD WILLIAM, 1721?-94
(Caneuon Ffydd 580)
PowerPoint