O Grist, Ffisigwr mawr y byd,
down atat â’n doluriau i gyd;
nid oes na haint na chlwy’ na chur
na chilia dan dy ddwylo pur.
Down yn hyderus atat ti,
ti wyddost am ein gwendid ni;
gwellhad a geir ar glwyfau oes
dan law y Gŵr fu ar y groes.
Anadla arnom ni o’r nef
falm dy drugaredd dawel, gref;
pob calon ysig, boed yn dyst
fod hedd yn enw Iesu Grist.
Aeth y trallodus ar eu hynt
yn gwbwl iach o’th wyddfod gynt;
Ffisigwr mawr, O rho dy hun
i’n gwneuthur ninnau’n iach bob un.
D. R. GRIFFITHS, 1915-90 © Petra Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 301)
PowerPoint