O lesu’r Meddyg da,
Ffisigwr mawr y byd,
O cofia deulu’r poen a’r pla,
a’r cleifion oll i gyd.
Tydi yn unig ŵyr
holl gystudd plant y llawr,
y rhai sy’n crefu am yr hwyr,
yn griddfan am y wawr.
O boed dy lygaid di
ar bawb sy’n wael eu gwedd,
a chofia’r rhai sy’n croesi’r lli
i’r wlad tu draw i’r bedd.
NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)
(Caneuon Ffydd 804)
PowerPoint