O llawenhewch! Crist sydd ynom,
mae gobaith nefoedd ynom ni:
mae’n fyw! mae’n fyw! mae’i Ysbryd ynom,
O codwn nawr yn fyddin, codwn ni!
Fe ddaeth yr amser inni gerdded drwy y tir,
fe rydd i ni bob man sethrir dan ein traed.
Marchoga mewn gogoniant,
concrwn wrth ei ddilyn ef;
fe wêl y byd mai’r Crist yw ef
Mae pwrpas Duw ar waith yn ein bywydau ni,
yn codi teyrnas o rym, nid geiriau gwag,
lle mae’r amhosibl
drwy ffydd yn dod yn bosibl;
rhown y gogoniant iddo ef!
‘Rym ni mor wan, ond mae ei ras yn bopeth in;
llestri o bridd ond mae’r trysor ynom ni:
ein holl wendidau ni
yn gyfle newydd ef a’u try,
fel bo’r gogoniant iddo ef!
GRAHAM KENDRICK, Rejoice, rejoice (Hope of Glory) cyf. ARFON JONES
(Caneuon Ffydd 275, Grym Mawl 2: 116)
PowerPoint
Hawlfraint 1983 Kingsway’s Thankyou Music,
Defnyddiwyd trwy ganiatâd