O na chawn i olwg hyfryd
ar ei wedd, Dywysog bywyd;
tegwch byd, a’i holl bleserau,
yn ei ŵydd a lwyr ddiflannai.
Melys odiaeth yw ei heddwch,
anghymharol ei brydferthwch;
ynddo’n rhyfedd cydlewyrcha
dwyfol fawredd a mwyneidd-dra.
Uchelderau mawr ei Dduwdod
a dyfnderoedd ei ufudd-dod
sy’n creu synnu fyth ar synnu
yn nhrigolion gwlad goleuni.
DAVID CHARLES, 1762-1834
(Caneuon Ffydd 356)
PowerPoint