logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O rho dy bwys ar freichiau’r Iesu

O rho dy bwys ar freichiau’r Iesu,
fe’th gynnal ymlaen,
fe’th gynnal ymlaen;
dy galon, wrth ymddiried ynddo,
a leinw ef â chân.

Pwysa ar ei fraich,
(bythol) cred ei gariad mwyn,
pwysa ar ei fraich
(cans) arni cei dy ddwyn,
pwysa ar ei fraich,
(O mae) O mae nefol swyn
wrth bwyso ar fraich fy Nuw.

O rho dy bwys ar freichiau’r Iesu
rhydd olau i’th droed,
rhydd olau i’th droed;
lle bynnag byddo yn dy arwain
O dilyn yn ddi-oed.

O rho dy bwys ar freichiau’r Iesu
d’ofalon i gyd,
d’ofalon i gyd
a’th feichiau trymion dod ar Iesu,
mae’n cario beichiau’r byd.

O rho dy bwys ar freichiau’r Iesu,
dy garu y mae,
dy garu y mae,
nid yw ei galon byth yn oeri
na’i lygaid yn trymhau.

EDGAR LEWIS (Just lean upon the arms of Jesus), 1895-1936 cyf. ANAD

(Caneuon Ffydd 392)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015