logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O’r fath dywyllwch sy’n llethu ein byd

O’r fath dywyllwch sy’n llethu ein byd –
Anghyfiawnder, a gorthrwm a phoen.
Gwledydd yn llithro’i anobaith mor ddwfn,
Ond trodd tyrfa fawr at yr Oen.
Gwelant wrthryfel drwy’r tir –
Tristwch gorffwylledd ein hil.

Tyrd i’n plith ni Arglwydd Iesu,
Tywallt dy Ysbryd yn awr.
Tyrd i’n plith ni Arglwydd Iesu,
Tywallt dy Ysbryd o’r nef i lawr.

Llanw dy eglwys â’th gariad a’th nerth,
I rannu y newyddion da
Am iachawdwriaeth sy’n rhodd gan y Tad
I bawb sydd yn credu’n ei Fab.
Rho nerth i’oleuo ein byd,
Hyd nes y cesgli ni ‘nghyd.

Cawn, fe gawn ddathlu
yn llawen ryw ddydd
Pan ddoi ‘nol, ond nid fel o’r blaen.
T’wyllwch ddiflanna,
daw tristwch i ben,
Brenhinoedd ymgrymant o’th flaen.
Bydd ein cenhadaeth ar ben,
Cawn weld dy wyneb heb len.

Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Arfon Jones
Great is the darkness (Come, Lord Jesus), Noel Richards & Gerald Coates
Hawlfraint © 1992 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 34)

PowerPoint