logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pa feddwl, pa ‘madrodd, pa ddawn

Pa feddwl, pa ‘madrodd, pa ddawn,
pa dafod all osod i maes
mor felys, mor helaeth, mor llawn,
mor gryf yw ei gariad a’i ras?
Afonydd sy’n rhedeg mor gryf
na ddichon i bechod na bai
wrthsefyll yn erbyn eu llif
a’u llanw ardderchog di-drai.

Fel fflamau angerddol o dân
yw cariad f’Anwylyd o hyd;
fe losgodd bob rhwystrau o’i flaen,
fe yfodd yr afon i gyd:
ymaflodd mewn dyn ar y llawr,
fe’i dygodd â’r Duwdod yn un;
y pellter oedd rhyngddynt oedd fawr,
fe’i llanwodd â’i haeddiant ei hun.

JOHN WILLIAMS, 1728?-1806

(Caneuon Ffydd 347)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015