Pa le, pa fodd dechreuaf
foliannu’r Iesu mawr?
Olrheinio’i ras ni fedraf,
mae’n llenwi nef a llawr:
anfeidrol ydyw’r Ceidwad,
a’i holl drysorau’n llawn;
diderfyn yw ei gariad,
difesur yw ei ddawn.
Trugaredd a gwirionedd
yng Nghrist sy nawr yn un,
cyfiawnder a thangnefedd
ynghyd am gadw dyn:
am Grist a’i ddioddefiadau,
rhinweddau marwol glwy’,
y seinir pêr ganiadau
i dragwyddoldeb mwy.
O diolch am Gyfryngwr,
Gwaredwr cryf i’r gwan;
O am gael ei adnabod,
fy Mhriod i a’m rhan,
fy ngwisgo â’i gyfiawnder
yn hardd gerbron y Tad,
a derbyn o’i gyflawnder
wrth deithio’r anial wlad.
ROGER EDWARDS, 1811-86
(Caneuon Ffydd 331)
PowerPoint