logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pêr fydd dy gofio, Iesu da

Pêr fydd dy gofio, Iesu da,
a’r galon drist a lawenha;
na’r mêl a’r mwynder o bob rhyw
bod gyda thi melysach yw.

Ni chenir cân bereiddiach ryw,
nid mwynach dim a glywo clyw;
melysach bryd ni wybydd dyn
nag Iesu, Unmab Duw ei hun.

Ti, obaith edifeiriol rai,
ti wrth gyfeiliorn drugarhai;
a’th geisio, da wyt iddynt hwy,
i’r rhai a’th gaffo, gymaint mwy!

Ni ddywaid tafod yn y byd,
nac iaith ysgrifen ynddo i gyd,
o’th ddilyn di pa beth yw’r fraint:
a brofodd hyn a ŵyr ei faint.

Goleuni pwyll, llawenydd bryd,
a ffynnon wyt i’r gwir i gyd;
mwy wyt na phob boddhad dy hun,
a mwy na holl ddymuniad dyn.

Dymunaf fil o weithiau di:
pa bryd y deui ataf fi?
Pa bryd y doi i’m llawenhau,
a’th roi dy hun i’m llwyr foddhau?

EMYN LLADIN O’R 12FED GANRIF  cyf. T. GWYNN JONES, 1871-1949
Hawlfraint © ystad ac etifeddion T. Gwynn Jones Cedwir pob hawl

(Caneuon Ffydd: 307)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016