Pwy sy’n dwyn y Brenin adref?
Pwy sy’n caru gweld ei wedd?
Pwy sy’n parchu deddfau’r goron
ac yn dilyn llwybrau hedd?
Hwn fydd mawr dros y llawr,
dewch i’w hebrwng ef yn awr.
Pwy sy’n taenu cangau’r palmwydd
ar y ffordd o dan ei draed?
Ble mae mintai y cerddorion
i glodfori gwerth ei waed?
Mawr fydd ef yn y nef,
dewch yn awr i’w ddwyn i dref
Doed y rhai sy’n llesg eu meddwl,
doed y rhai sy’n galon drist;
fe â llawer gofid heibio
wrth was’naethu Iesu Grist:
os efe gaiff ei le,
daw y ddaear fel y ne’.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 250)
PowerPoint