Rho d’arweiniad, Arglwydd tirion,
i’th lân Eglwys yn ein tir:
i’w hoffeiriaid a’i hesgobion
dyro weledigaeth glir:
gwna’i haelodau yn ganghennau
ffrwythlon o’r Winwydden wir.
Boed i gadarn ffydd ein tadau
gadw d’Eglwys rhag sarhad:
boed i ras ein hordinhadau
buro a sancteiddio’n gwlad:
boed i’w gwyliau a’i hymprydiau
chwyddo’r mawl yn nhŷ ein Tad.
Gwna dy Eglwys yn offeryn
i’th fawrygu drwy’r holl fyd:
ymhob gwlad doed corff y werin
i’th foliannu o un fryd
yng ngweledig ac unedig
gorff dy Fab, ein Ceidwad drud.
TIMOTHY REES, 1874-1939
(Caneuon Ffydd 610)
PowerPoint