Pennill 1:
Rhydd Duw fwy o ras pan fo’r beichiau’n cynyddu,
Fe rydd fwy o nerth wrth i’r tasgau drymhau;
Gorlifa’i drugaredd pan ddybla’r gorthrymder,
Yn wyneb treialon, Ei hedd ddaw’n ddi-drai.
Cytgan:
Diderfyn Ei gariad, Ei ras sy’n ddifesur,
Tu hwnt i’n dirnadaeth helaethrwydd Ei ddawn;
O’i storfa gyfoethog, ddihysbydd yn Iesu
Mae’n rhoddi, a rhoddi Ei hunan yn llawn.
Pennill 2:
 mesur ein dycnwch wedi darfod ers meitin,
A’n nerth wedi pallu cyn diwedd y dydd,
Os gwag ydyw costrel ddiferion pob adnodd,
Haelioni ein Tad, megis dechrau a fydd.
Cytgan:
Diderfyn Ei gariad, Ei ras sy’n ddifesur,
Tu hwnt i’n dirnadaeth helaethrwydd Ei ddawn;
O’i storfa gyfoethog, ddihysbydd yn Iesu
Mae’n rhoddi, a rhoddi Ei hunan yn llawn.
Pennill 3:
Na thybia mai mwy fydd dy angen na’i allu,
Ein Tad, mae’n hiraethu am rannu Ei dda;
Wrth bwyso mewn ffydd ar Ei fraich fythol gadarn,
Tydi a’th holl feichiau, eich cynnal a wna.
Cytgan:
Diderfyn Ei gariad, Ei ras sy’n ddifesur,
Tu hwnt i’n dirnadaeth helaethrwydd Ei ddawn;
O’i storfa gyfoethog, ddihysbydd yn Iesu
Mae’n rhoddi, a rhoddi Ei hunan yn llawn.
Rhydd Duw fwy o ras / He giveth more grace (Annie Johnson Flint)
Cyf. Linda Lockley