logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Salm 139

Arglwydd, ti sydd wedi fy chwilio i,
A’m hadnabod, neb yn well;
Gwyddost pryd dw i’n codi neu eistedd lawr,
A beth sy’n fy meddwl o bell.
Wrth orffwys neu wrth gerdded cam,
Rwyt yn gwybod pob dim dwi’n wneud,
Rwyt ti’n gwybod, cyn imi agor ceg,
Bob gair dw i’n mynd i’w ddweud.

Tu ôl ac o fy mlaen i wyt,
Mae dy law di drosof fi,
Rhy ryfedd yw’r wybodaeth hon,
Mae tu hwnt i ‘nghyrraedd i.
Ble alla i fynd oddi wrthyt ti?
I ble y gallaf ffoi?
Os i’r nefoedd fry neu i Annwn af,
Yno wyt heb fodd d’osgoi.

Os hedfan wnaf i gyda’r wawr,
Os trigaf dros y lli,
Bydd dy law di yno’n fy arwain draw,
A’th law dde yn fy nghynnal i.
Os dwedaf “Y tywyllwch du
A’r nos yn guddfan fydd”,
Nid tywyll yw i ti, fy Nuw,
Yr un yw’r nos a’r dydd.

Ti greodd fi yng nghroth fy mam,
Ti’n f’adnabod i i’r dim;
Ti drefnodd ddyddiau ‘mywyd oll
Cyn i un fynd heibio’n chwim.
Mor ddwfn yw dy feddyliau i mi!
Amlach maent na thywod byd,
Ni alla’u cyfrif – ond hyn mi wn:
Byddi gyda mi o hyd.

Geiriau: Salm 139: 1-18, addas. Cass Meurig
Tôn: Star of the County Down (Kingsfold)

Dogfen Word PowerPoint MP3 Cerddoriaeth
  • Gwenda Jenkins,
  • June 14, 2016