Emyn priodas
Seliwr cyfamodau’r ddaear
Tyred i’r briodas hon,
A chysegra serch y ddeuddyn
A’u haddewid ger dy fron;
Cadw’r heulwen yn eu calon,
Cadw aur y fodrwy’n lân,
Ym mhob digwydd a phob gofyn
Cadw hwy rhan colli’r gân.
Nawdd a tharian ein haelwydydd
Ydwyt Ti, O Dad o’r nef,
Rho i’r ddau a wna gyfamod
Gysgod dy ddeheulaw gref;
O grymusa eu ffyddlondeb,
Nertha hwy i gyd-ymddwyn,
Nes troi serch a ffydd blynyddoedd
Yn ogoniant er dy fwyn.
W. Rhys Nicholas © Richard E. Huws, Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
Tôn: Hyfrydol neu Blaen-wern
PowerPoint