Ti, Arglwydd, fu’n dywysydd
ar hyd blynyddoedd oes,
yn gwmni ac yn gysur,
a’th ysgwydd dan ein croes:
diolchwn am bob bendith
fu’n gymorth ar y daith,
anoga ni o’r newydd
i aros yn dy waith.
Wrth gofio y gorffennol
a datblygiadau dyn,
rhyfeloedd a rhyferthwy
y dyddiau llwm a blin,
clodforwn di, O Arglwydd,
am wyrthiol waith dy ras
sy’n adfer pechaduriaid
i freintiau’r nefol dras.
Diolchwn am bob dyfais
a darganfyddiad gwiw
sy’n llesol a defnyddiol
i wella poen a briw:
clodforwn di, O Athro,
am ddysg a dawn ein hoes,
gan wybod uwch pob gwybod
Efengyl Crist y groes.
DENZIL IEUAN JOHN. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 826)
PowerPoint