Ti Deyrn y bydysawd, arlunydd y wawr,
rheolwr pelydrau, amserwr pob awr,
ffynhonnell pob ynni, a bwyd ei barhad:
tydi, er rhyfeddod, a’n ceraist fel Tad.
Diolchwn am fywyd, a’r gallu bob pryd
i wir werthfawrogi amrywiaeth dy fyd;
er lles ein cyd-ddynion cysegrwn bob dawn,
at wir adnabyddiaeth o’th natur nesawn.
Egina’n talentau dan d’ofal, ein Tad,
blagurwn, blodeuwn fel tyfiant yr had;
aeddfedwn, drwy brofiad llawenydd a loes,
yn gynnyrch toreithiog cynhaeaf dy groes.
HYWEL M. GRIFFITHS
(Caneuon Ffydd 109)