Ti, O Dduw, foliannwn
am dy ddoniau rhad,
mawr yw d’ofal tyner
drosom, dirion Dad;
llawn yw’r ddaear eto
o’th drugaredd lân,
llawn yw’n calon ninnau
o ddiolchgar gân.
Ni sy’n trin y meysydd,
ni sy’n hau yr had,
tithau sy’n rhoi’r cynnydd
yn dy gariad rhad;
doniau dy ragluniaeth
inni’n gyson ddaw;
storfa’r greadigaeth
yw d’agored law.
Lleisiau nef a daear
a rydd fawl i ti
am dy ryfedd roddion
gwerthfawr a di-ri’;
unwn ninnau i’th foli
â gwefusau glân;
diolch fo’n ein calon,
moliant yn ein cân.
SPINTHER (J. Spinther James), 1837-1914
(Caneuon Ffydd 127)
PowerPoint