Ti yr hwn sy’n fôr o gariad
ac yn galon fwy na’r byd,
ar y ddau a blethodd gwlwm
boed dy fendith di o hyd:
bydd yn gwmni yn eu hymyl,
bydd yn gysgod drwy eu hoes,
ac ar lwybrau dyrys bywyd
nertha’r ddau i barchu’r groes.
Yn yr haul ac yn yr awel
pan fo’r byd i gyd yn gân,
dan demtasiwn dydd o hawddfyd,
cadw’r ddau yn bur a glân;
a phe chwalai storm a chorwynt
wynfyd dau yn deilchion trist,
tyn hwy’n nes o hyd mewn cariad
o dan gariad Iesu Grist.
J. EIRIAN DAVIES, 1918-98 © Siôn Eirian
(Caneuon Ffydd: 657)
PowerPoint