Tra bo adduned dau
heb golli lliwiau’r wawr
a’n cymod yn parhau
o hyd yn drysor mawr,
O Dduw ein Iôr, rho inni ffydd
i gadw’r naws o ddydd i ddydd.
Tra bo anturiaeth serch
yn llawn o’r gobaith glân,
a delfryd mab a merch
yn troi yn felys gân,
rho help i ni, O Arglwydd Dduw,
i gadw’r harddwch wrth gyd-fyw.
Tra byddom hyd yr hwyr
yn cerdded law yn llaw
a’n hymddiriedaeth lwyr
yn falm, beth bynnag ddaw,
ein Tad o’r nef, O arwain ni
i roddi clod i’th enw di.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd: 639)
PowerPoint