Tyrd, Ysbryd cariad mawr,
ymwêl â llwch y llawr,
a gyr dy nerth yn dân i’m hysbryd egwan;
Ddiddanydd, agosâ,
fy nghalon i cryfha,
a chynnau’r fflam yn hon, dy newydd drigfan.
Dy gwmni, sanctaidd Un,
dry nwydau meidrol ddyn
yn llwch a lludw yn ei danllyd fflamau;
a’th olau nerthol di
fyddo f’arweinydd i
ac ar fy ffordd yn llewyrch mwy i’m llwybrau.
Tywynned haul dy ras
o wyneb-pryd dy was,
a’i darddiad fyddo’r galon iselfrydig,
yr hon a wyla’n lli
dros ei diffygion hi
gan ddwyn ei chroes yn dawel ostyngedig.
Uwch deall dynol-ryw
fo’r hiraeth dwfn am Dduw
a phresenoldeb Ysbryd Crist byth bythoedd:
ei ras ni ŵyr un dyn
nes dod yn deml ei hun
lle trig yr Ysbryd Sanctaidd yn oes oesoedd.
BIANCO DA SIENA, m. 1434 cyf. R. F. LITTLEDALE, 1833-90 a HYWEL M. GRIFFITHS
© geiriau Cymraeg, Siân Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 599)
PowerPoint