Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, Grëwr y byd,
i orffwys yn ein c’lonnau ni.
Tyrd, llanw ni â’th nerth a’th ras,
Tyrd i’n rhyddhau o’n pechod cas;
Llawenydd rho (i) ddynoliaeth drist;
Gwna ni yn demlau bywiol Crist.
Ffynhonnell pob goleuni pur,
Ysbryd pob gras, a’r bywyd gwir
Llifed y bywiol ddyfroedd glân,
dy gariad pur a’r nefol dân.
Rho in dy gysur, tyrd mewn grym.
Tyrd i’n sancteiddio ddwyfol Un.
Gogoniant i Dduw yr Un-yn-Dri
Dad, Mab ac Ysbryd, molwn di;
Gogoniant, Haleliwia
Gogoniant, Haleliwia
Roddwr pob gras, o tyrd i lawr;
Dy ddoniau hael rho in yn awr;
Pâr i ni gredu’r hyn sy’n wir,
a byw i’th ddangos di yn glir;
Wrth i ti roi dy hun i ni
Gwelwn ryfeddod Un-yn-Dri
Gogoniant i Dduw yr Un-yn-Dri,
Dad, Mab ac Ysbryd, molwn di;
Gogoniant, Haleliwia
Gogoniant, Haleliwia
Gogoniant i Dduw, rhown iddo glod;
R’hwn oedd, ac sydd ac eto’i ddod.
Gogoniant i ti, Amen
Gogoniant i ti, Amen
Graham Kendrick | John Dryden | Rabanus Maurus
© 2020 Make Way Music (Admin. by Make Way Music Limited)
Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones