Un sylfaen fawr yr Eglwys
yr Arglwydd Iesu yw,
ei greadigaeth newydd
drwy ddŵr a gair ein Duw;
ei briodasferch sanctaidd
o’r nef i’w cheisio daeth,
â’i waed ei hun fe’i prynodd
a’i bywyd ennill wnaeth.
Fe’i plannwyd drwy’r holl wledydd,
ond un, er hyn i gyd,
ei sêl, un ffydd, un Arglwydd,
un bedydd drwy’r holl fyd;
un enw glân folianna,
un ymborth ynddi gawn,
gan gyrchu at un gobaith
o ddoniau’r nef yn llawn.
Yng nghanol gorthrymderau
a thwrf rhyfeloedd mawr
hiraethu mae am weled
tangnefedd ar y llawr,
nes troi ei ffydd yn olwg
i lonni’i llygaid prudd,
a’r Eglwys filwriaethus
yn ogoneddus fydd.
Ond yma mae mewn undeb
â Duw, y Tri yn Un,
mewn dirgel, hardd gymundeb
â seintiau’r nef ynglŷn:
O deulu glân a dedwydd!
O Arglwydd, nertha ni
i esgyn gyda’r Iesu
i’th bresenoldeb di.
S. J. STONE, 1839-1900 (The Church’s one foundation) cyf. J A. JACKSON, 1845-75
(Caneuon Ffydd 612)
PowerPoint