Wnest ti ddim disgwyl Dduw
I mi ddod yn nes,
Ond fe wisgaist ti dy hun
Ym mreuder dyn.
Wnest ti ddim disgwyl im alw arnat ti,
Ond fe elwaist ti yn gyntaf arnaf fi.
A bydda’ i’n ddiolchgar am byth,
Bydda’ i’n ddiolchgar am y groes,
Am it ddod i achub rhai coll
Byddai’n diolch i ti ar hyd fy oes.
Mark Altrogge: You did not wait for me, Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd Prichard
Hawlfraint © People of Destiny/Thankyou Music 1985. Gwein. Gan Copycare
(Grym Mawl 1: 195)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.