Wrth orsedd y Jehofa mawr
plyged trigolion byd i lawr;
gwybydded pawb mai ef sy Dduw,
yr hwn sy’n lladd a gwneud yn fyw.
Â’i ddwyfol nerth, fe’n gwnaeth ei hun
o bridd y ddaear ar ei lun;
er in, fel defaid, grwydro’n ffôl,
i’w gorlan ef a’n dug yn ôl.
I’th byrth â diolch-gân ni awn,
cyfodi’n llef i’r nef a wnawn;
doed pobloedd o bob iaith sy’n bod
i lenwi’r pyrth â llafar glod.
D’arglwyddiaeth di sy dros y byd,
tragwyddol yw dy gariad drud;
saif dy wirionedd heb osgoi
pan beidio’r haul a’r lloer â throi.
ISAAC WATTS (Before Jehovah’s aweful throne), 1674-1748 cyf. DAFYDD JONES, 1711-77
(Caneuon Ffydd 69)
PowerPoint PPt Sgrîn lydan
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.