Y Bugail mwyn o’r nef a ddaeth i lawr
i geisio’i braidd drwy’r erchyll anial mawr;
ei fywyd roes yn aberth yn eu lle,
a’u crwydrad hwy ddialwyd arno fe.
O’m crwydrad o baradwys daeth i’m hôl,
yn dirion iawn fe’m dygodd yn ei gôl;
‘does neb a ŵyr ond ef, y Bugail mawr,
pa faint fy nghrwydro o hynny hyd yn awr.
Â’i hyfryd lais fe’m harwain yn y blaen
cydymaith ydyw yn y dŵr a’r tân;
rhag pob rhyw ddrwg, yn nyffryn angau du,
pwy arall saif yn gadarn fyth o’m tu?
Pan af i dref, i’r hyfryd gorlan fry,
ni chrwydraf mwy oddi wrth fy Mugail cu;
wrth gofio’r daith a’i holl ffyddlondeb ef
mi seinia’i glod i entrych nef y nef.
DAVID CHARLES, 1762-1834
(Caneuon Ffydd 346)
PowerPoint