Y mae gennyf drysor,
trysor mwy na’r byd
yn yr Iesu hawddgar,
cyfaill plant y byd.
Cytgan:
Y mae gennyf drysor,
Arglwydd nef a llawr;
Yn ei ddwyfol gariad
Mae ’ngorfoledd mawr.
Y mae gennyf drysor,
gweddi ato ef;
nid yw ef yn gwrthod,
cais yr isel lef.
Y mae gennyf drysor,
rhodio gyda Brawd;
ddaeth i blith ei frodyr,
er eu mwyn, yn dlawd.
Y mae gennyf drysor,
gwasanaethu f’oes;
dros y Gŵr fu farw,
unwaith ar y groes.
Lewis Valentine © Catrin Gweirrul Hughes. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
PowerPoint(Caneuon Ffydd: 399)