Y nefoedd uwch fy mhen
a dduodd fel y nos,
heb haul na lleuad wen
nac unrhyw seren dlos,
a llym gyfiawnder oddi fry
yn saethu mellt o’r cwmwl du.
Er nad yw ‘nghnawd ond gwellt
a’m hesgyrn ddim ond clai,
mi ganaf yn y mellt,
maddeuodd Duw fy mai:
mae Craig yr oesoedd dan fy nhraed,
a’r mellt yn diffodd yn y gwaed.
EHEDYDD IÂL (William Jones 1815-99), 1815-99
(Caneuon Ffydd 183)
PowerPoint