Ymgrymwn ger dy fron
ti Dduw ein tadau;
O llanw’r oedfa hon
â’th ddylanwadau:
o blith teganau ffôl
i wres dy gynnes gôl
O galw ni yn ôl
o’n holl grwydriadau.
Allorau fwy na mwy
gaed ar ein llwybrau,
a rhoesom arnynt hwy
ein hebyrth gorau:
ond trodd addoli’r byd
yn golled drom i gyd;
siomedig iawn a drud
yw’r eilun dduwiau.
O Dduw, tosturia nawr,
a maddau’r camwedd;
er mwyn dy enw mawr
dod in ymgeledd;
â’th Ysbryd cadw ni
o flaen dy allor di,
gan gofio Calfarî
nes delo’r diwedd.
J. J. WILLIAMS, 1869-1954
(Caneuon Ffydd 41)
PowerPoint PPt sgrîn lydan