Ysbryd Glân, golomen nef,
gwrando’n rasol ar ein llef;
aethom yn wywedig iawn,
disgyn yn dy ddwyfol ddawn.
Oer ein serch, a gwan ein ffydd,
ein Hosanna’n ddistaw sydd;
tyred, tyred, Ysbryd Glân,
ennyn ynom nefol dân.
Er na haeddwn ni dy gael,
eto ti wyt Ysbryd hael;
tyred, tyred yn dy ras,
maedda’n hanghrediniaeth gas.
Ysbryd Glân, golomen nef,
cod ni ar dy adain gref;
nes cyrhaeddwn uwch y byd
mewn sancteiddiol, nefol fryd.
ROGER EDWARDS, 1811-86
(Caneuon Ffydd 592)
PowerPoint