Ysbryd graslon, rho i mi
fod yn raslon fel tydi;
dysg im siarad yn dy iaith,
boed dy ddelw ar fy ngwaith;
gwna i holl addfwynder f’oes
ddweud wrth eraill werth y groes.
Ysbryd geirwir, rho i mi
fod yn eirwir fel tydi;
trwy’r ddoethineb oddi fry
gwna fi’n dirion ac yn gry’;
gwna fi’n frawd i’r gwan a’r trist
er mwyn dangos Iesu Grist.
Ysbryd grymus, rho i mi
fod yn rymus fel tydi;
dysg im goncro lle mae dyn
yn rhy egwan wrtho’i hun;
yn dy obaith cynnal fi
drwy beryglon tân a lli.
Ysbryd Sanctaidd, rho i mi
fod yn sanctaidd fel tydi;
ynof pob rhyw ras cryfha,
dysg im fyw i bethau da;
ac i’r Duw a’th roddodd di,
Ysbryd perffaith, canaf fi.
T. T. LYNCH, 1818-71 (Gracious Spirit, dwell with me), cyf. ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 589)
PowerPoint