Ysbryd Sanctaidd, disgyn
o’r uchelder glân
nes i’n calon esgyn
mewn adfywiol gân.
Arwain ein hysbrydoedd
i fynyddoedd Duw,
darpar yno’r gwleddoedd
wna i’r enaid fyw.
Dangos inni’r llawnder
ynddo ef a gaed,
dangos inni’r gwacter
heb rinweddau’r gwaed.
Ysbryd Sanctaidd, dangos
inni’r Iesu mawr;
dwg y nef yn agos,
agos yma nawr.
PENAR, 1860-1918
(Caneuon Ffydd 595)
PowerPoint