Ysbryd y gorfoledd,
tyrd i’n calon ni,
fe ddaw cân i’n henaid
wrth d’adnabod di;
cyfaredda’n hysbryd
â llawenydd byw
nes in lwyr feddiannu
cyfoeth mawr ein Duw.
Ysbryd y gwirionedd,
rho dy lewyrch clir,
arwain ni o’r niwloedd
at oleuni’r gwir;
rho i ni’r ddoethineb
sydd mor lân â’r wawr,
tyn ein henaid gwamal
i’r datguddiad mawr.
Ysbryd cariad dwyfol,
O meddianna ni,
diogel fydd ein henaid
yn dy burdeb di;
gad in deimlo beunydd
rinwedd dy berswâd,
adfer yn ein henaid
ddelw hardd y Tad.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd: 598)
PowerPoint