Abba Dad, O gad im fod
fyth yn eiddot ti;
boed f’ewyllys i byth mwy
fel yr eiddot ti:
na foed oerni dan fy mron,
paid â’m gollwng i;
Abba Dad, O gad im fod
fyth yn eiddot ti.
DAVE BILBROUGH (Abba Father, let me be) cyf. CATRIN ALUN
Hawlfraint © 1977 Kingsway’s Thankyou Music, P.O. Box 75. Eastbourne BN23 6NW
Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd 802, Grym Mawl 1: 1)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.