Adnewydda f’ysbryd, Arglwydd,
ar dy ddydd, ac yn dy waith;
llanw f’enaid â gorfoledd
i’m gwroli ar fy nhaith:
gyda’r awel gad im glywed
llais o’r nef yn eglur iawn
yn cyhoeddi bod i’m henaid
heddwch a gollyngdod llawn.
Gad im ddringo copa’r mynydd
rydd lawn olwg ar y tir
lle mae seintiau ac angylion
yn mwynhau y bywyd gwir:
lle mae bywyd yn anfarwol,
bywyd bery’n ieuanc byth;
yno ‘nghangau pren y bywyd,
uwchlaw angau, gwnaf fy nyth.
E. AERON JONES, 1826-1906
(Caneuon Ffydd 27)