Arglwydd, dysg i mi weddïo
priod waith pob duwiol yw:
treulio ‘nyddiau oll i’th geisio
a mawrygu d’enw gwiw;
dedwydd ydyw
a ddisgwylio wrthyt ti.
Gad im droi i’m stafell ddirgel,
ti a minnau yno ‘nghyd,
profi gwerth y funud dawel
pan fo’n drystfawr oriau’r byd;
rho im glywed
neges y distawrwydd dwfn.
Rho im ddyfal daerni’r Iesu,
gofyn am a geisiai ef,
cael y ffydd nad yw yn methu
agor euraid byrth y nef;
yn ei enw
popeth nef a daear gaf.
R. S. ROGERS, 1882-1950
(Caneuon Ffydd 709)
PowerPoint