Arglwydd Iesu, ti faddeuaist
inni holl gamweddau’n hoes,
a’n bywhau gan hoelio’n pechod
aflan, atgas ar y groes:
dyrchafedig Geidwad, esgyn
tua’r orsedd drwy y pren;
daethost ti i’n gwasanaethu,
cydnabyddwn di yn Ben.
Cerdd ymlaen, Orchfygwr dwyfol,
yn dy fuddugoliaeth fawr,
gorymdeithia dros y croesbren
uwch d’elynion ar y llawr:
plyg y llywodraethau iti,
cei awdurdod dros y byd;
coron hardd Tywysog heddwch
haeddaist ti am d’aberth drud
O. M. LLOYD, 1910-80 © Gwyn M. Lloyd Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 261)
PowerPoint