Caed trefn i faddau pechod
yn yr Iawn;
mae iachawdwriaeth barod
yn yr Iawn;
mae’r ddeddf o dan ei choron,
cyfiawnder yn dweud, “Digon,”
a’r Tad yn gweiddi, “Bodlon”
yn yr Iawn;
a “Diolch byth,” medd Seion,
am yr Iawn.
Yn awr, hen deulu’r gollfarn,
llawenhawn;
mae’n cymorth ar Un cadarn,
llawenhawn:
mae galwad heddiw ato
a bythol fywyd ynddo;
ni chollir neb a gredo,
llawenhawn,
gan lwyr ymroddi iddo,
llawenhawn.
GWILYM CYFEILIOG, 1801-76
(Caneuon Ffydd 536)
PowerPoint