Cariad Iesu Grist,
cariad Duw yw ef:
cariad mwya’r byd,
cariad mwya’r nef.
Gobaith plant pob oes,
gobaith dynol-ryw,
gobaith daer a nef
ydyw cariad Duw.
Bythol gariad yw
at y gwael a’r gwan,
dilyn cariad Duw
wnelom ymhob man.
Molwn gariad Duw
ar bob cam o’r daith,
canu iddo ef
fydd yn hyfryd waith.
BEN DAVIES, 1864-1937
(Caneuon Ffydd 387)
PowerPoint