Drugarog Arglwydd da,
drwy’n gyrfa i gyd
yr un wyt ti’n parhau
er beiau’r byd;
dy ddoniau, ddydd i ddydd,
ddaw inni’n rhydd a rhad,
mor dyner atom ni
wyt ti, ein Tad.
Agori di dy law
a daw bob dydd
ryw newydd ddawn gryfha,
berffeithia’n ffydd;
y ddaear gân i gyd
a hyfryd yw ei hiaith,
dy glod sy’n llond pob tant
o’i moliant maith.
Fydd mawl dy blant yn ôl?
Anhraethol fawr
yw’n dyled ni bob un
i’r Iesu nawr;
dy Ysbryd ynom dod
i seinio clod yn glir:
cawn uno â chytgan gref
y nef cyn hir.
MEIGANT, 1851-99
(Caneuon Ffydd 211)
PowerPoint